Click Here To Go To The Macsen Archive



-
%SHOW_TITLE%

Cover Art


Ateb Ac Atal


Ateb Ac Atal


Ateb Ac Atal

Introduction

Mae ATEB AC ATAL o Gwmni Meddalwedd Macsen yn seiliedig ar y gyfres deledu boblogaidd Blockbusters. Cynhyrchir y gêm deledu gan gwmni teledu Central mewn cydweithrediad â Mark Goodson a Talbot Television.

Er y gwnaed pob ymdrech i ymarfer gofal wrth baratoi'r recordiad hwn nid yw'r cyhoeddwr yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am wallau nac unrhyw rwymedigaeth mewn perthynas â niwed a berir o'i ddefnyddio.

Mae ATEB AC ATAL yn fersiwn o'r gêm gwis deledu lwyddiannus Blockbusters ar gyfer cyfrifiaduron cartref poblogaidd. Mae'n gêm ar gyfer dau chwaraewr unigol ar rwydwaith 4 x 4 o hecsagonau, â'r ddau chwaraewr yn eu tro yn ceisio creu llwybr ar draws y rhwydwaih. Mae'r caset yn cynnwys y gêm ei hun a channoedd o gwestiynau gwybodaeth cyffredinol i roi oriau o fwynhad cystadleuol i chi. Oherwydd cyfyngiadau cof y BBC/ELECTRON rhannwyd y cwestiynau ac fe'u cynhwysir mewn nifer o ffeiliau ar wahân.

Llyytho

Er mwyn chwarae'r gêm sicrhewch fod y caset yn wynebu'r ffordd iawn ar gyfer y fersiwn a fynner ac ailweindiwch os oes angen. Teipiwch CHAIN "" a pwyswch RETURN, yna pwyswch PLAY ar eich recordydd. Llwythir nifer o raglenni. Sicrhewch, oni relir eich recordydd gan fotor, eich bod yn cychwyn a stopio'r tâp pan ddaw cyfarwyddiadau ichi wneud hynny ac wedi i'r rhagien lwytho.

Wedi ichi lwytho'r brif raglen fe fydd y cyfrifiadur yn gofyn a ydych am lwytho cwestiynau newydd. Os atebwch "Y" fe lwythir y set nesaf o gwestiynau ar y tâ i'r cof. Os atebwch "N" fe ddefnyddir y cwestiynau sydd eisoes yn y cof. Os nad oes cwestiynau yno fe lwythir set newydd o'r tâp.

Chwarae

Cyn chwarae'r gêm fe ofynnir ichi:

  • A ydych am gael Sain
  • Sawl gêm sydd yn y gyfres (1-9)
  • Lefel yr anhawster (1-9) - yr uchaf y mae lefel yr anhawster, y byrraf y bydd yr amser a ganiateir

 
Yna fe neilltuir lliw i bob chwaraewr (Gwyn neu Glas) a bysell er mwyn atal (A neu *). NODER: Does dim angen defnyddio'r bysell SHIFT. Yn ystod y gêm daw'r cwestiwn ar draws y sgrîn a gall y naill chwaraewr neu'r llall atal ar unrhyw adeg trwy bwyso ei fysell. Os ydi'r ateb yn anghywir neu os daw'r amser a ganiateir i ben bydd y cwestiwn yn ymddangos ar gyfer y chwaraewr arall. Ceir cloc ar y sgrîn sy'n cyfri'r amser a ganiateir i'r chwaraewr ateb. Bydd rhai cwestiynau'n derbyn dau ateb posibl (e.e. unigol a lluosog) ac, os ceir rhyw fân gamsillafiadau, rhoddir cyfie arall fe rheol i'r chwaraewr ateb.

Mae'r llythyrennau dwbl i'w cael wrth bwyso'r bysellau coch fel â ganilyn:

f0 f1 f2 f3 f4 f5 f6
ch dd ff ng ph rh th

 
Er mwyn hwylustod dylid gosod y stribed amgaeedig o dan y darn plastig uwchben y bysellau coch.

Er mwyn llwytho cwestiynau newydd neu i ailddechrau pwyswch ESCAPE. Noder: Bydd pwyso BREAK yn dileu'r gêm o'r cof. Os digwydd hyn bydd yn ofynnol ei lwytho unwaith eto o'r tâp.

Screenshots

Cover Art Language(s): Welsh
Compatibility: BBC Model B, BBC Model B+, BBC Master 128, Acorn Electron
Release: Professionally released On Cassette
Original Release Date: 2nd Apr 1984
Links: Everygamegoing,

Cover Art

Front Inlay Images

Media Scan Images

Downloads

Ateb Ac Atal (5.25" Disc)
Ateb Ac Atal (3.5" Disc)